Cefais fy ngeni a’m magu ar fferm odro ger Bangor, a dwi bellach yn ffermio ar dyddyn gyda fy nheulu ifanc. Mae fy stiwdio yn edrych i gyfeiriad mynyddoedd Eryri, lle daw fy ysbrydoliaeth. Fel aelod o un o’r teuluoedd hynaf sy’n dal i ffermio yn Nyffryn Ogwen, mae fy ngwaith yn dogfennu hanes, traddodiadau ffermio, a’r ffyrdd modern.
Mi wnes i arbenigo mewn gwehyddu ym Mhrifysgol Manceinion yn 2007, a dwi bellach yn dylunio ac yn creu defnyddiau llawn patrwm a lliw cyfoes ar gyfer y tŷ.
Daw fy ysbrydoliaeth yn bennaf o hen lyfr nodau clust y teulu. Toriadau ar glustiau ŵyn yw nodau a gaiff eu gwneud gan ffermwyr sydd â’r hawl i bori ar y mynydd. Maen nhw’n gwneud hyn i adnabod eu praidd. Mae sawl elfen o draddodiadau ffermio i’w gweld ar fy ngharthenni, sef y gwellau nodi a ddefnyddid i wneud y nodau, y gwellau cneifio, a chyrn meheryn. Mae pob carthen yn dogfennu hanes, traddodiad neu atgof o’m plentyndod, fel y blodau gwyllt oedd yn rhan fawr o’m plentyndod ac a welwn wrth gerdded y gwartheg godro o’r caeau. Byddwn yn cofnodi eu henwau, ac maen nhw i’w gweld ar sawl cynllun. Mae llawer o’r cynlluniau wedi cael eu hysbrydoli gan boteli llefrith yr ardal, gan fod fy nhaid yn arfer rhedeg rownd lefrith o amgylch Bethesda.
Mae cerdded yr ardal a’r mynyddoedd yn tanio fy nychymyg. Daw fy ysbrydoliaeth ar gyfer lliw gan amlaf o fyd natur, o gen ar lechi i liwiau’r grug neu flodau’r eithin.
