Test

Commissions

To discuss commissions please contact seller.

Commissions can be tailored to your unique ear notch or notches of your area.

Tyn Llan Llandwrog

Royal Oak Betws Y Coed

 

Comisiwn Y Parc Cenedlaethol

Translation coming soon...

Dyma lunia o'r comisiwn i'r Parc Cenedlaethol a darn a gafodd ei ysgrifennu gan Gwen Aeron 

Carthenni Enwau Eryri

Yn 2026 bydd arddangosfa arbennig sy’n cofnodi ac yn dathlu cyfoeth enwau tirweddol Eryri trwy gyfrwng y grefft draddodiadol o wehyddu gwlân yn mynd ar daith.
Mae enwau tirweddol hanesyddol yn cipio ysbryd lleoedd, yn sbarduno’r dychymyg ac weithiau’n ail greu’r bywyd beunyddiol, y trafferthion, y brwydrau a gogoniant yr oes a fu.
O fewn chwe charthen wlân unigryw cofnodir a dethlir detholiad o’r cannoedd o enwau tirweddol hanesyddol a gasglwyd mewn sesiynau a gynhaliwyd ar hyd a lled Eryri er mwyn casglu gwybodaeth am enwau tirweddol gan drigolion.

Dyluniwyd y carthenni gan y gwehydd a’r dylunydd tecstilau, Anna Pritchard. Mae pob carthen wedi ei briodoli i ardal benodol o Eryri, a phob un â’i ddyluniad unigryw ei hun yn adlewyrchu rhai o nodweddion arbennig yr ardaloedd hynny.
Comisiynwyd y carthenni gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fel rhan o’i waith ehangach o gasglu a chofnodi enwau tirweddol o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol er mwyn eu dathlu a’u diogelu ar gyfer y dyfodol.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr hyn mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n ei wneud i ddathlu a diogelu enwau tirweddol Eryri ar wefan yr Awdurdod Diogelu Enwau Tirweddol Hanesyddol | Parc Cenedlaethol Eryri
Bydd y carthenni’n cael eu harddangos yn Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog o fis Ionawr tan y 15fed o Fawrth, ac yna yn oriel MOMA, Machynlleth o’r *dyddiad* tan y *dyddiad*.